Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                      Nodir y pwynt. Camgymeriad yn y testun Cymraeg yw hwn a byddwn yn sicrhau bod y diffiniad yn cael ei ddileu o reoliad 2 o’r testun Cymraeg cyn gwneud y Rheoliadau, fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                      Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y’i nodir yn y tabl isod, er mwyn sicrhau bod y term diffiniedig yn cael ei ddefnyddio drwyddi draw.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                      Nodir y pwynt. Camgymeriad yn y testun Cymraeg yw hwn a byddwn yn sicrhau bod y diffiniad yn cael ei ddiwygio yn y testun Cymraeg cyn gwneud y Rheoliadau, fel y’i nodir yn y tabl isod, fel ei fod yn darllen “Cynwysyddion papur anhyblyg”.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 4:                     Nodir y pwynt. Fodd bynnag, rydym yn fodlon bod y cyfieithiad yn briodol ac nad oes angen ei ddiwygio.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 5:                     Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 6:                     Nodir y pwynt. Fodd bynnag, rydym yn fodlon mai’r gair “bennu” yw’r cyfieithiad cywir o “determining” ac “establishing”. Nid ydym o’r farn bod angen “gadarnhau”

 

 

Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn i’r Rheoliadau gael eu gwneud

CYWIRIADAU A WNEIR I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD

CYWIRIADAU A WNEIR I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD

Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

The Waste Separation Requirements (Wales) Regulations 2023

Yn y testun Cymraeg dim ond y diffiniad o “person sy’n gweithredu yng nghwrs busnes” fel y’i nodir isod fydd yn cael ei ddileu o reoliad 2

“ystyr “person sy’n gweithredu yng nghwrs busnes” (“person acting in the course of a business”) yw person—

(a)     sy’n cynnal unrhyw fusnes neu ymgymeriad, pa un ai er elw ai peidio, neu

(b)     sy’n arfer unrhyw swyddogaethau o natur gyhoeddus;”

 

Ym mhennawd cyntaf Rhan 4 bydd y cyfeiriad at “Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990” yn cael ei ddisodli gan "Ddeddf 1990".

Ym mhenawdau Rheoliad 7 bydd y cyfeiriadau at “Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990”” yn cael eu disodli gan “Deddf 1990”.

Yn nau bennawd Rhan 4 bydd y cyfeiriadau at “Environmental Protection Act 1990” yn cael eu disodli gan “1990 Act”.

Yn y testun Cymraeg yn unig, yn Atodlen 1, bydd “Cynwysyddion plastig anhyblyg” yn cael ei ddisodli gan “Cynwysyddion papur anhyblyg”.

Yn yr Atodlen, ym mharagraffau 25(2) a (3), bydd “ym mharagraff” yn cael ei ddisodli gan “yn is-baragraff”.

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 28(2), bydd “Ym mharagraff” yn cael ei ddisodli gan “Yn is-baragraff”.

Yn Atodlen 2, ym mharagraffau 25(2) a (3) ac 28(2), bydd “paragraph” yn cael ei ddisodli gan “sub-paragraph”.

Bydd mân faterion fel fformatio, mân newidiadau i’r nodyn esboniadol a’r troednodiadau a chywiro gwallau teipograffyddol hefyd yn cael eu cywiro cyn gwneud